Ein Cenhadaeth, Gweledigaeth a'n Gwerthoedd
Pwrpas Kumbukumbu ydy dathlu, cadw, a rhannu hanesion cyfoethog a diwylliant bywiog cymunedau Duon Cymru. Trwy ein casgliadau a’n gwaith gyda’r gymuned, rydym yn sicrhau bod y straeon hyn yn cael eu cofio ac yn parhau i ysbrydoli ac addysgu cenedlaethau’r dyfodol.

RHEOLWR Y PROSIECT
Ophelia Dos Santos sydd yn gyfrifol am y prosiect Kumbukumbu. Mae ei rôl yn cynnwys rheoli partneriaethau, datblygu prosiectau, a goruchwylio monitro a gwerthuso. Ochr yn ochr â’i gwaith yn SSAP, mae Ophelia yn artist tecstilau ac yn ymchwilydd o Gymru sydd yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei hymarfer creadigol yn archwilio’r berthynas rhwng ffabrig, diwylliant a chymuned, ac mae hi'n defnyddio tecstilau fel ffordd o adrodd straeon, diogelu treftadaeth, a hyrwyddo cyfiawnder hinsawdd.

YMGYNGHORYDD PROSIECT
Mae Dr Sarah Younan yn ceisio cael pobl i ymddiddori mewn amgueddfeydd ac i'w mwynhau, ac mae hi'n ymgynghorydd ar gyfer amgueddfeydd, arddangosfeydd a sefydliadau diwylliannol. Mae Younan yn angerddol am sicrhau cydraddoldeb a dyfodol teg yn y sector creadigol ac ar hyn o bryd, mae hi'n archwilio diwylliannau sefydliadol a llesiant staff yn ystod cyfnod o argyfwng hinsawdd.

SWYDDOG PROSIECT
Mae Robert Oros yn gynhyrchydd diwylliannol ac yn artist sy’n gweithio yng Nghaerdydd ar draws y meysydd celfyddydau gweledol a pherfformio, treftadaeth a newid cymdeithasol. Mae wedi gweithio gyda sefydliadau sy'n cynnwys Amgueddfa Cymru, SHIFT, g39, Canolfan Gelfyddydau Chapter ac ar hyn o bryd, mae’n aelod SCORE gyda tactileBOSCH. Fel rhan o brosiect Kumbukumbu SSAP, mae’n cysylltu hanes pobl Dduon Cymru gydag amgylchedd diwylliannol heddiw, ac yn cael ei ysgogi gan y gred y gall celf herio, addysgu, cysylltu ac ail-ddychmygu.

YMGYNGHORYDD ADDYSGOL
Mae Daniel Trivedy yn artist ac yn addysgwr o dras Indiaidd, sydd wedi'i leoli yn Ne Cymru. Mae ei waith yn archwilio hunaniaeth, cysylltiad a pherthyn, a chydraddoldeb hiliol hefyd. Mae’n darlithio yng Ngholeg Sir Gâr ac mae wedi bod yn rhan o Raglen Dysgu Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru ers 2015. Yn ddiweddar, cwblhaodd radd MA mewn Ymarfer sy'n Ymgysylltu'n Gymdeithasol mewn Amgueddfeydd ac Orielau.

SWYDDOG PROSIECT
Mae gan Hannah Ringane gymhwyster MSc mewn Anghydraddoldebau a Gwyddor Gymdeithasol o Ysgol Economeg Llundain, a BSc mewn Daearyddiaeth Ddynol o Brifysgol Caerdydd. Gyda dros 5 mlynedd o brofiad mewn gweithredu cymdeithasol a threfnu cymunedol, mae hi wedi gweithio mewn rolau gwrth-hiliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi gweithio gyda Sefydliad y Co-op ar brosiectau grantiau a pholisi dan arweiniad pobl ifanc. Yn SSAP, mae hi'n gweithio fel cyd-Swyddog Prosiect ar gyfer y prosiect Kumbukumbu, ac yn gwneud hanes pobl Dduon Cymru yn fwy hygyrch.
Cadw Straeon
Rydym yn casglu ac yn cadw straeon personol, hanesion llafar a straeon cymunedol sy’n adlewyrchu profiad pobl Dduon Cymru.
Creu Adnoddau
Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr addysg, athrawon, hwyluswyr ac artistiaid i greu adnoddau cyffrous ar hanes pobl Dduon Cymru.
Adeiladu Cymuned
Rydym yn adeiladu cysylltiadau tu mewn a thu allan i gymunedau Duon Cymru, ac yn creu llefydd i drafod a dathlu.

Dilysrwydd
Rydym yn parchu lleisiau a phrofiadau go iawn, ac yn sicrhau bod straeon yn cael eu rhannu’n onest ac yn barchus.
Cynhwysiant
Rydym yn croesawu pob safbwynt a phrofiad o fewn cymunedau pobl Dduon Cymru, ac yn cydnabod amrywiaeth yn ei holl ffurfiau.
Hygyrchedd
Rydym yn gweithio i sicrhau bod ein casgliadau a’n hadnoddau ar gael i bawb, ac yn chwalu unrhyw rwystrau o ran cael mynediad at dreftadaeth ddiwylliannol.
Cydweithio
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau, sefydliadau ac unigolion i gyflawni einnodau.
Cymryd Rhan
Gweithdai Cymunedol
Oes gennych chi ddiddordeb mewn Ysgrifennu Creadigol, Dawnsio, Brodwaith neu mewn
Rhwydweithio? Rydym bob amser yn trefnu rhywbeth.
Fforwm i Athrawon
Ydych chi’n Athro neu’n Ymarferydd Addysg sydd â diddordeb mewn Hanes Pobl Dduon Cymru?
Ydych chi eisiau trefnu gweithdy dysgu creadigol yn eich ysgol? Ymunwch â’n rhestr aros isod



Mae Kumbukumbu yn cael ei ariannu gan:
Gyda help gan:




Helpwch ni i adrodd y stori
Dolenni Cyflym:
Quick Links:
Cysylltu/ Contact:
E-bost/ Email: info@ssap.org.uk
or info@kumbukumbu.wales
Rhif ffôn/ Phone: 029 2002 8410
24 Windsor Place
Cardiff CF10 3BY
Mae'r Prosiect Yn Cael ei Ariannu gan Gronfa'r Loteri Genedlaethol
Project Funded by
National Lottery Heritage Fund